DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Anifeiliaid, Bwyd, Iechyd Planhigion, Deunyddiau Lluosogi Planhigion a Hadau (Diwygiadau Amrywiol etc.) 2022

 

DYDDIAD

 15 Gorffennaf 2022

 

GAN

Lesley Griffiths AS/MS

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

 

Bydd Aelodau'r Senedd am fod yn ymwybodol ein bod yn rhoi caniatâd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Bydd yr Offeryn Statudol (OS) uchod yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(a) ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Yr effaith y gallai'r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:

 

Mae creu pwerau cydamserol newydd yn cyfyngu'r Senedd wrth arfer ei chymhwysedd deddfwriaethol (ar y sail bod angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 11 o Atodlen 7B i ddileu'r swyddogaethau hyn).

 

Mae'r gofyniad i gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i ddileu unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron wedi'i ddiwygio gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 ('Gorchymyn 2021'). Diwygiodd Gorchymyn 2021 Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddileu'r gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion y Goron os yw Gweinidogion Cymru yn addasu neu'n dileu swyddogaeth Ysgrifennydd Gwladol o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 11(6) i Atodlen 7B ac yn cynnwys unrhyw un o swyddogaethau Gweinidog y Goron sydd i unrhyw raddau yn 'arferadwy yn gydamserol’ pan fo'r swyddogaeth honno'n bodoli i unrhyw raddau yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 8 i 8C o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

   

Cafodd y rheoliadau eu gosod gerbron Senedd y DU ar 13 Gorffennaf 2022 a byddant yn dod i rym 21 o ddiwrnodau yn ddiweddarach.